Hosea 11

Cariad Duw at ei bobl

1Pan oedd Israel yn blentyn
roeddwn yn ei garu,
a gelwais fy mab allan o'r Aifft. a
2Ond po fwya roeddwn i'n galw,
pellaf roedden nhw'n mynd.
Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal,
a llosgi arogldarth i eilunod.
3Fi ddysgodd Effraim
11:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
i gerdded;
a'i arwain gerfydd ei law.
Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabod
mai fi ofalodd amdanynt.
4Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr –
tennyn cariad.
Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf,
a fi wnaeth blygu i'w bwydo.

Cosb am fod yn anufudd

5Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!
Bydd Asyria'n eu rheoli,
am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.
6Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi.
Bydd y gelyn yn malu'r giatiau,
a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.
7Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i.
Maen nhw'n galw ar Baal,
ond fydd e byth yn eu helpu nhw!

Cariad rhyfeddol Duw

8Sut alla i dy roi heibio, Effraim?
Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel?
Sut alla i dy roi heibio fel Adma?
Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm?
11:8 Adma … Seboïm Cafodd y trefi yma eu dinistrio gyda Sodom a Gomorra (gw. Deuteronomium 29:23).

Na, dw i wedi newid fy meddwl!
Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.
9Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi.
Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr!
Duw ydw i, nid dyn fel chi,
yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio.”

Bydd Duw yn dod â'i bobl yn ôl i Israel

10Bydd yr Arglwydd yn rhuo fel llew,
a byddan nhw'n ei ddilyn eto.
Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dod
o'r gorllewin yn llawn cyffro.
11Dod ar frys fel adar o'r Aifft,
neu golomennod yn hedfan o Asyria.
“Bydda i'n eu casglu nhw'n ôl i'w cartrefi.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

Achos Duw yn erbyn Israel

12Ac eto celwydd Effraim sydd o'm cwmpas;
dydy pobl Israel yn gwneud dim byd ond twyllo.
Ac mae Jwda'n crwydro yn ôl ac ymlaen oddi wrth Dduw –
yr Un Sanctaidd, sydd mor ffyddlon.
Copyright information for CYM